Adeiladau Rhestredig yng Nghymru (Listed Buildings in Wales)

Mae gennym brofiad helaeth o ymdrin ag Adeiladau Rhestredig yng Nghymru ac o weithio gyda Cadw.

Yn aml, cân ein galw i gynorthwyo pan nad yw Swyddog Cadwraeth neu Swyddog Cynllunio’r awdurdod lleol yn ffafrio eich cynigion. Gallwn helpu i ddatrys y materion, mynychu cyfarfodydd safle, a chynorthwyo i sicrhau eich bod yn gallu cyrraedd datrysiad boddhaol i’r broblem.

Mae Dr David Hickie yn arbenigwr o fri rhyngwladol ym maes rheoli treftadaeth ac roedd gynt yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol gyda English Heritage (corff arbenigol cenedlaethol y llywodraeth ar gyfer pob mater treftadaeth). Mae hefyd yn Aelod Llawn o’r Institute of Historic Building Conservation (y corff proffesiynol sy’n cynrychioli swyddogion cadwraeth awdurdodau lleol).

Gallwn ymgymryd ag unrhyw waith arolygu sydd ei angen, paratoi lluniadau ar eich rhan, cyflwyno’r cais i chi (fel arfer yn electronig drwy’r Porth Cynllunio), a delio ag unrhyw ymholiadau gan y Swyddog Cadwraeth.

 



We have wide experience of dealing with Listed Buildings in Wales and working with Cadw.

Often we are called in to help when the local authority Conservation Officer or Planning Officer does not like your proposals. We can help work through the issues, attend site meetings and help ensure that you can achieve a satisfactory resolution of the problem.

Dr David Hickie was formerly an Assistant Director working for English Heritage (the English government’s national expert body for all heritage matters) and is a Full Member of the Institute of Historic Building Conservation (the professional body for local authority conservation officers).

We can do any survey work required, prepare drawings for you, submit the application for you (normally electronically using the ‘Planning Portal’ and deal with any queries from the Conservation Officer.